P-04-373 Atal Faniau Symudol Bwydydd Cyflym rhag gweithredu mewn ardaloedd Ysgolion

 

Geiriad y ddeiseb:

Maer Deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth i atal Faniau Symudol Bwydydd Cyflym rhag gweithredu o fewn 400 metr i bob ysgol yng Nghymru, a hynny rhwng 08.00 a 16.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.

Prif ddeisebydd: Arfon Jones

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 13 Mawrth 2012

Nifer y deisebwyr: 43

Gwybodaeth ategol:Mae Cyngor Wrecsam yn ddiweddar wedi cytuno ar nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio syn dweud : Ni ddylai Mannau Gwerthu Bwydydd Poeth Cyflym newydd gael eu lleoli... o fewn 400 metr i ffin ysgol neu goleg trydyddol. Ni ellir defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu defnyddio cerbydau symudol bwydydd cyflym, ac os ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau priffyrdd ac iechyd yr amgylchedd, gallant weithredu heb drwydded. Dadleuir, felly, y bydd deddfu fel yr awgrymir yn hyrwyddo nod cymdeithasol o leihau faint o fwydydd afiach rhad sydd ar gael i blant, yn lleihau gordewdra ac yn hyrwyddo bwyta iach.